Menter Diwylliannol: Gwerthusiad o'r E-fwletin. Mehefin 2005
Cynnwys
1. Cyflwyniad
Mae E-fwletin Menter Diwylliannol yn gyhoeddiad electroneg wythnosol sydd ar gael yn rhad ac am ddim a ddechreuwyd ym 1999. Mae'r e-fwletin yn grynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd sy'n berthnasol i ymarferwyr hunan gyflogedig a busnesau bychain yn gweithio o fewn, neu yn cynnig cyngor i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Derbynnir yr e-fwletin gan dros 1,350 o danysgrifwyr yn wythnosol.
2. Amcan y gwerthusiad
- I ddarganfod beth y mae'r tanysgrifwyr yn meddwl am fformat yr e-fwletin
- I ddarganfod beth y mae'r tanysgrifwyr yn meddwl am gynnwys yr e-fwletin
- I ddarganfod pa ganlyniadau (os unrhyw beth) a ddeilliodd yn sgil tanysgrifio i'r e-fwletin.
- I ddarganfod barn y tanysgrifwyr ar ddatblygiadau yn y dyfodol a'u gwybodaeth am wasanaethau eraill Menter Diwylliannol.
3. Dull y gwerthusiad
Yn ystod Rhagfyr 2004, cafodd tanysgrifwyr yr opsiwn i ymateb i holidaur gwerthuso (gweler atodiad a). Lleolwyd yr holiadur ar wefan a gallai tanysgrifwyr glicio dolen yn yr e-fwletin i gael eu trosglwyddo i'r wefan. Cafodd tanysgrifwyr y cynnig i ymateb dros gyfnod o bedair wythnos. Ar ™l ymateb ni fyddai'r ddolen yn ymddangos ac felly nid oedd modd i danysgrifwyr ymateb mwy nag unwaith.
Cynigwyd gwobr er mwyn annog y tanysgrifwyr i ymateb. Cafodd pawb a wnaeth ymateb i'r holiadur eu cynnwys mewn lotri i ennill tanysgrifiad blwyddyn i gyhoeddiad yn ymwneud ‰'r diwydiannau creadigol.
Casglwyd cyfanswm o 151 o ymatebion, sef 11% o'r holl danysgrifwyr.
4. Crynodeb o'r ymatebion
Iaith yr atebwyr Roedd yr holiadur ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. 3 o'r atebwyr wnaeth ddewis ymateb drwy gyfrwng y Gymraeg.
4.1 Fformat
Roedd cwestiwn 1 yn holi am fformat yr e-fwletin.
- Cytunodd 97% o'r atebwyr fod tanysgrifio i'r e-fwletin yn syml
- Roedd 96% yn credu bod yr e-fwletin yn gryno
- Roedd 92% yn cytuno bod y fformat yn hawdd i'w ddilyn
- Pan cynigwyd dewis o fwletin misol, bob pythefnos, wythnosol neu fwletin llai aml dwedodd 71% y byddai'n well ganddynt dderbyn yr e-fwletin yn wythnosol.
Gofynnwyd a fyddai'n well gan yr atebwyr dderbyn dogfen HTML neu destun plaen. Dwedodd 54% y byddai'n well ganddynt dderbyn dogfen testun plaen a dwedodd 41% y byddai'n well ganddynt dderbyn fersiwn HTML. Derbyniwyd y sylwadau canlynol:
[The] content is fine but awkward to navigate because of the plain text format. Also, I find it very bland visually and without a direct link to each, the individual categories are unconstructive
and
The simplicity of an email format, which might seem unsophisticated, has actually proved the most accessible way of getting information.
Byddai'n posibl i fynd i'r afael ‰'r mater drwy ddarparu dewis o HTML a Testun Plaen.. Byddair' bwletin HTML yn adlewyrchu symlrwydd y ddogfen testun plaen ond gyda mynegai a chysylltiadau hyperdestun a cyswllt yn ™l i'r mynegai, felly'n darparu opsiynau llywio ychwanegol.
4.2 Cynnwys
Roedd yr ail gwestiwn yn holi ynghylch cynnwys yr e-fwletin a pha mor ddefnyddiol oedd i'r tanysgrifwyr.
Cytunodd 93% fod yr e-fwletin yn darparu gwybodaeth newydd a defnyssiol. Roedd 89% yn teimlo bod yr e-fwletin yn declyn cyfredol defnyddiol. Dwedodd 59% fod yr wybodaeth yn helpu gyda'u busnesau ac roed 56% yn cytuno ei fod yn helpu gyda'u ymarferiad creadigol. Roedd 23% yn credu fod dros hanner yr e-fwletin yn berthnasol iddynt bob wythnos.
Mae hyn yn awgrymu fod tanysgrifwyr yr e-fwletin yn ei ddefnyddio fel ffordd of gadw mewn cyswllt gyda chyfleoedd a newyddion o fewn y diwydiannau creadigol yn hytrach na fel adnodd pwrpasol ar gyfer eu celfyddyd. Mae hyn yn cael ei gadarnhau gan y sylwadau sy'n dilyn:
As the operator of a craft centre, I am on the periphery of most of the activity covered by the bulletin but find it a valuable insight into what others are doing elsewhere
It provides me with info that would take me hours to find on my own — not everything applies to me but some do
I am a figurative painter and a mother of 3 therefore a lot of the conferences/residencies are not practical for me. Currently I use your service for submission and competitions and for my partner's music
Gofynnwyd os oedd yna bynciau arbennig y byddai'r tanysgrifwyr yn hoffi mwy o wybodaeth amdan, dwedodd 13% y byddant yn hoffi gweld mwy o wybodaeth ar theatr a dawns, tecstilau, ffotograffiaeth, Nawdd a Rhyngweithio.
Mae'n bosib y gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth ar y pynciau yma ond mae'n amhosibl i sicrhau fod yr e-fwletin yn 100% perthnasol i bawb trwy'r amser.
Roedd 38% a 40% eisiau gweld hysbysebion am wasanaethau a chynhyrchion ein cleientiaid ac roedd dros hanner yr atebwyr wedi dynodi y byddant yn hoffi gweld mwy o wybodaeth ar gyfleoedd o fewn y DU ac yng rhyngwladol. Dwedodd 74% o'r atebwyr eu bod eisiau gweld mwy o swyddi ar yr e-fwletin.
Gofynnwyd i'r atebwyr gytuno neu anghytuno gyda'r datganiad Rwyf yn hoffi'r bwletin fel y mae ac nid wyf eisiau iddo fe newid
Cytunodd 41% a anghytunodd 44%.
Gofynnodd 27% am fwy o wybodaeth dwyieithog. Yn y gorffennol, mae Menter Diwylliannol wedi ceisio dod o hyd i nawdd i gyfieithi yr e-fwletin. Nid ydynt wedi llwyddo dod o hyd i'r nawdd ac felly ein polisi yw i gynnwys gwybodaeth yn ddwyieithog lle mae'n bosib a phan mae'r cyfleoedd wedi eu hanelu at siaradwyr y Gymraeg.
Mae'r ymatebion yn awgrymu nad oes angen newid radical ar bolisi golygyddol yr e-fwletin. Yn y dyfodol gobeithiwn y bydd posibilrwydd ddatblygu gwasanaethau ychwanegol mewn ymateb i anghenion y tanysgrifwyr.
4.3 Canlyniadau
Pan gofynnwyd pam eu bod yn tanysgrifio i'r e-fwletin, dwedodd 91% eu bod yn tanysgrifio er mwyn cynnal eu gwybodaeth cyffredinol. Mae e hefyd yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell o wybodaeth ar hyfforddiant, deddfwriaeth a nawdd. Ym mhob achos, roedd gan yr atebwyr mwy o ddiddordeb mewn gwybodaeth ynglyn ‰'r diwydiannau creadigol yn hytrach na busnes yn gyffredinol, er enghraifft:
- Roedd gan 74% ddiddordeb mewn cyfleoedd hyfforddiant yn y diwydiannau creadigol
- Roedd gan 58% ddiddordeb mewn cyfleoedd hyfforddiant busnes
- Roedd gan 58% ddiddordeb mewn cyfleoedd marchnata
- Roedd gan 56% ddiddordeb mewn nawdd ar gyfer y diwydiannau creadigol
- Roedd gan 54% ddiddordeb mewn nawdd arall
- Roedd gan 51% ddiddordeb mewn comisiynau
- Roedd gan 56% ddiddordeb mewn deddfwriaeth sy'n effeithio ar y diwydiannau creadigol
- Roedd gan 26% ddiddordeb mewn deddfwriaeth sy'n effeithio ar fusnes yn gyffredinol
Mae'r ymatebion yn awgrymu y dylai'r e-fwletin ganolbwyntio ar wybodaeth sydd yn ymwneud ‰'r diwydiannau creadigol yn hytrach nag ar fusnes yn gyffredinol.
Mae'r tanysgrifwyr yn defnyddio'r e-fwletin i hysbysu eraill, cydweithwyr a ffrindiau, am gyfleoedd yn ymwneud a'i meysydd. Roeddent yn amcangyfrif eu bod yn pasio'r wybodaeth ymlaen at 187 o bobl eraill.
- Mae 37% wedi defnyddio'r e-fwletin i wneud cysylltiadau newydd neu i gydweithio a phartneriaid
- Mae 30% wedi mynd i gynhadledd
- Mae 28% wedi mynychi cwrs hyfforddi
- Mae 26% yn teimlo fel bod eu busnes wedi gwella yn sgil darllen yr e-fwletin
- Mae 15% wedi defnyddio'r e-fwletin i ddod o hyd i nawdd ac i hyrwyddo eu gwaith
- Mae 10% wedi ymgeisio am gomisiwn neu r™l breswyl
- Mae 15% wedi llwyddo dod o hyd i nawdd fel canlyniad o ddarllen rhywbeth ar yr e-fwletin
Roedd y rhai hynny nad oedd wedi defnyddio'r wybodaeth hyd yma yn tybio y byddant yn ei ddefnyddio yn y dyfodol;
We have only been receiving the bulletin a short time, but we're confident that it will help us in many ways
and
I occasionally find information in the bulletin which might assist me in the future to secure funding for my projects
Gofynnwyd pa ffynonellau eraill o wybodaeth roedd y darllenwyr yn defnyddio ynghyd ‰'r e-fwletin.
- Cylchgrawn A-N 23%
- E-fwletin Cyngor Celfyddydau Cymru 15%
- Hyfforddiant Celfyddydau Cymru 8%
- Crefft (ACW) 7%
- Cylchgrawn Crafts 7%
- Voluntary Arts Wales 7%
Wrth ddewis gwybodaeth ar gyfer yr e-fwletin rydym yn ceisio sicrhau nad ydym yn ailadrodd yn ormodol. Wedi dweud hynny, ni allwn rwystro sefydliadau eraill rhag ddefnyddio ein e-fwletin er mwyn dod o hyd i wybodaeth ar gyfer eu cyhoeddiadau.
Gofynnwyd i'r atebwyr raddio'r e-fwletin:
- Cytunodd 33% fod yr e-fwletin yn dda
- Cytunodd 42% fod yr e-fwletin yn dda iawn
- Cytunodd 15% fod yr e-fwletin yn ardderchog
4.4 Arall
Yn yr adran olaf, gofynnwyd cwestiynau ynghylch gwybodaeth a defnydd yr atebwyr o wasanaethau eraill Menter Diwylliannol ac am eu barn am wasanaethau eraill y gallwn ddarparu yn y dyfodol.
- Roed 85% yn gwybod bod yr e-fwletin yn cael ei archifo ar y wefan
- Roedd 60% yn gwybod am y Gwasanaeth Wybodaeth a roedd 29% wedi defnyddio'r Gwasanaeth
- Roedd 61% yn gwybod am y Gwasanaeth Mentora a roedd 18% wedi defnyddio'r Gwasanaeth
- Roedd 74% yn gwybod am y wefan a roedd 43% wedi ymweld ‰ fe
- Roedd 56% yn gwybod am y ganolfan wybodaeth ac roedd 13% wedi ymweld ‰ fe
- Roedd 41% yn gwybod am y gwasanaeth ymgynghorol a roedd 7% wedi defnyddio'r gwasanaeth
Mae'r niferoedd sydd wedi defnyddio gwasanaethau Menter Diwylliannol yn isel, ond canran bychan (25%) o'r tanysgrifwyr sydd yn gleientiaid i'r gwasanaeth. Byddwn yn ystyried hyn wrth farchnata ein gwasanaethau craidd.
Gofynnodd cwestiwn 4.3 am farn yr atebwyr ar y syniad o ddatblygu fforwm ar wefan Menter Diwylliannol.
- Roedd 83% o blaid y syniad
- Roedd 74% yn credu y dylai'r fforwm gael ei ddefnyddio i adeiladu rhwydweithiau
- Roedd 42% yn credo y dylai'r fforwm gael ei ddefnyddio fel platfform marchnata ar gyfer ein cleientiaid
- Roedd 32% yn credu y dylid defnyddio'r fforwm I ddatblygu cadwyni cyflenwi a mentrau marchnata ar y cyd.
Roedd yna sylwadau ar ffocws a defnydd y fforwm ac roedd rhai yn dymuno'rhannu cyfalaf deallusol ac eraill yn pryderu y gallai'r fath fforwm ddatblygu i fod yn siop gwyno
.
Gan fod y mwyafrif o blaid sefydlu fforwm, mae hyn yn rhywbeth y bydd Menter Diwylliannol yn ceisio datblygu. Bydd angen polisi golygyddol gryf ac fel sydd yn gyffredin i'r mwyafrif o fforymau, byddwn yn cadw'r hawl i ddileu gwybodaeth. Byddwn hefyd yn ystyried datblygu gwahanol trywyddion trafod, er enghraifft, rhwydweithio, cymorth a chyngor, hysbysebion, gwasanaethau, digwyddiadau, swyddi ac o bosib darparu siop gwyno
pwrpasol!.
Sylwadau ac ymatebion
I sometimes wonder how information is gathered — is it just what is sent in? There seem to be certain areas that are very strong, e.g. film and new media. Maybe if CE was more proactive there is more information in other fields too?
Opportunities mainly for South Wales, can we have more information for North
It's a good initiative but is not reaching the growth sector of the over 50s
Mae Menter Diwylliannol yn casglu gwybodaeth o ystod eang o gyhoeddiadau, e-fweltinau a gwefannau, ac yn uniongyrchol o wahanol sefydliadau ac hefyd yn sgil awgrymiadau ein cleientiaid. Y bwriad yw i gynnwys gwybodaeth sydd yn berthnasol i'r diwydiannau creadigol. Gall yr wybodaeth fod o diddordeb i un maes neu i nifer o feysydd. Mae ein polisi o ddod o hyd i wybodaeth mewn ffordd rhagweithiol yn sicrhau ein bod yn gwasanaethu anghenion mwyafrif ein darllenwyr. Mae croeso i danysgrifwyr wneud awgrymiadau os nad ydynt o'r farn bod yr e-fweltin yn cyrraedd eu hanghenion.
5. Casgliadau
Ar y cyfan mae'r e-fweltin yn ffynhonnell o wybodaeth sydd yn cael ei werthfawrogi gan y darllenwyr. Adlewyrchir hyn yn rhai o'r sylwadau a dderbyniwyd.
I find it v.useful to keep informed and aware of opportunities for visual arts, part of the 'tool box'
I seriously think it is an excellent source of a wide range of information
Life is a lot easier with it — it would take me weeks to gather all that information myself
I think it is an extremely useful service that the rest of the UK could benefit from
Yn sgil yr ymatebion bydd Menter Diwylliannol (yn ddibynnol ar adnoddau a chyllid):
- Yn edrych i fewn i'r posibiliadau o ddarparu opsiwn HTML.
- Yn darparu gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i wybodaeth ar swyddi
- Yn dal ati i ddarparu gwybodaeth sydd yn apelio at yr ystod mwyaf eang o'n cleientiaid ac hefyd yn ceisio cyfeirio at anghenion darllenwyr o'r sectorau arbennig.
- Yn ymchwilio y syniad o ddatblygu fforwm.
- Yn marchnata gwasanaethau craidd menter diwylliannol i danysgrifwyr yr e-fweltin.
- Yn dal ati i ddarparu gwybodaeth dwyieithog lle darperir cyfieithiad.
© Menter Diwylliannol 2005

