Anwybyddu Morwryaeth

Cyllid ar Gyfer Eich Busnes Creadigol : Taflenni Gwybodaeth Menter Diwylliannol

Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Ymchwil a Chynllunio
  3. Mathau o Gymorth Ariannol
  4. Cynllun Busnes
  5. Llenwi’r ffurflen gais
  6. Gair i Gall
  7. Ffynonellau Gwybodaeth
  8. Rhestr Ddarllen

1. Cyflwyniad

Mae yna nifer o ffynonellau cyllid a phecynnau ariannol ar agor i fusnesau yng Nghymru a bydd yr un yr ydych yn ei ddewis yn dibynnu ar natur eich busnes/ymarferiad a sut yr ydych eisiau defnyddio’r arian.

Mae’r daflen ffeithiau’n cynnwys gorolwg o’r gwahanol ffynonellau ariannol sydd ar gael i fusnesau creadigol yng Nghymru, yn ogystal â’r rheolau a’r rheoliadau cyffredinol sy’n eu rheoli. Er hynny, mae’n bwysig cofio bod llawer o’r cronfeydd a’r rheoliadau’n newid yn gyson a bod angen gofyn i’r sefydliadau perthnasol am y wybodaeth ddiweddaraf.

2. Ymchwil a Chynllunio

Cyn dechrau chwilio am gyllid mae angen i chi fod yn glir ynglyn â beth yr ydych ei angen. Byddwch angen darbwyllo y cyllidwyr bod eich busnes neu brosiect gwerth buddsoddi ynddo. Mae gan pob cronfa ariannol meini prawf clir ynglyn â sut y gellir defnyddio’r arian sydd ar gael ac mae angen bod yn siwr eich bod yn ateb y meini prawf cyn dechrau. Un o’r meini prawf mwyaf cyffredin yw hunaniaeth busnes, bydd rhai yn barod i gefnogi unigolion a masnachwyr unigol lle bydd eraill yn canolbwyntio ar sefydliadau gwirfoddol neu dim-am-elw. Ceir gorolwg o’r manteision ac anfanteision o pob math o hunaniaeth busnes yn y No Nonsense Guide to Starting a Business

Wedi canfod y math cywir o gymorth ariannol byddwch angen cyfleu faint o arian yrydych ei angen a pwy fydd yn buddio o’r gwasanaethau neu’r prosiect yr ydych yn ei ddarparu. Bydd y rhan fwyaf o gyllidwyr yn defnyddio eich cynllun busnes I asesu os ydy eich busnes neu brosiect gwerth buddsoddi ynddo.

3. Mathau o Gymorth Ariannol

Mae cymorth ariannol yn disgyn yn fras i ddau gategori: benthyciadau/gorddrafftiau h.y. arian sydd angen ail dalu a grantiau h.y. arian nad ydych angen ei ail dalu. Mae cynnig am gyllid yn cymryd llawer o amser – gwnewch yn siwr eich bod yn cynnig am y math iawn o gyllid – does neb yn mynd i dalu am eich amser wrth gynnig am gyllid felly buddsoddwch eich amser yn gall!

Buddsoddiad personol neu breifat

Bydd y mwyafrif o bobl sydd yn cychwyn busnes yn dechrau gyda eu harian eu hunain neu fenthyciadau gan ffrindiau neu deulu.. Trwy godi yr arian dechreuol bydd yn dangos i gyllidwyr eich bod o ddifrif ynglyn â’r busnes/prosiect – pam y ylai rhywun arall fentro eu harian a’i hamser pan nad ydych chi yn barod i wneud?

Ym myd y celfyddydau gall buddsoddiad personol feddwl hunan-gyllido drwy ddefnyddio eich cynilion, benthyciadau, gorddrafftiau, cardiau credyd a.y.b. Gall hefyd gynnwys cymorth cyfnewidiol h.y. darparu defnyddiau neu wasanaethau yn hytrach na phres.

Os nad oes gennych y cyllid dechreuol sydd ei hangen - beth am chwilio am bartner i fuddsoddi yn eich busnes?

Benthyciadau


Mae’r mwyafrif o fanciau yn y stryd fawr yn cynnig benthyciadau i fusnesau bach, felly mae’n bwysig eich bod yn ymchwilio’r termau er mwyn dod o hyd i’r pecyn mwyaf addas ar gyfer eich busnes. Os nad ydych yn gallu cael benthyciad gan y banc, yna mae yna nifer o gyrff sydd yn gallu benthyg arian i fusnesau lle mae’r banc wedi gwrthod. Cyllid Cymru ( www.financewales.co.uk) Menter a Busnes (www.menterabusnes.com) Small Firms Loan Guarantee Scheme Cyngor Celfyddydau (www.artswales.org.uk) Mae’r rhain yn rhedeg cynlluniau benthyg wedi eu hanelu at fusnesau bach sydd ar gychwyn.

Cofiwch bod rhaid ad- dalu benthyciadau felly gwnewch yn siwr fod termau’r benthyciad yn addas i chi.

Buddsoddiad


Mae buddsoddiad soddgyfran, buddsoddiad cyfalaf, cyllid mezzanine (cyfuniad o ecwiti a dyled) a cyfalaf menter i gyd yn enghreifftiau o fuddsoddiad. Mae posib y bydd angen i chi roi’r gorau i peth o reolaeth eich busnes. Byddwch yn colli peth rheolaeth o’ch busnes ond yn derbyn chwistrelliad o gyllid. Am fwy o wybodaeth ar fuddsoddiad cysylltwch â Cyllid Cymru (www.financewales.co.uk).

Nawdd


Taliad gan fusnes i sefydliad celfyddydol gyda’r pwrpas o hyrwyddo enw’r cwmni, y gwasanaeth neu’r cynnyrch yw Nawdd. Er mwyn sicrhau nawdd bydd angen I chi fod yn gwerthu cyfle sy’n cydfynd â delwedd y Cwmni, er enghraifft – mae nifer of gwmniau rhyngwladol yn hoffi hyrwyddo delwedd “lleol” – a gall eich prosiect/fusnes eu helpu i gyflawni hyn?

Mae angen amser a ymroddiad er mwyn dod o hyd i a chadw Nawdd. Gall eich helpu i ledaenu eich sylfaen ariannol a gwella eich delwedd, ond dydy e ddim yn ffordd hawdd o ddatrys problemau ariannol. Gall Arts & Business Cymru (www.aandb.org.uk) eich helpu i ddatblygu cysylltiadau gyda noddwyr.

Cyrff Cyllido


Mae gan pob corff cyllido meini prawf penodol sy’n llywodraethu y math o gyllid maent yn dosbarthu. Er enghraifft, bydd rhai yn arbenigo mewn gwaith newydd, neu’n blaenoriaethu ffurf celfyddydol arbennig; bydd angen ymchwil i ddod o hyd i’r corff cyllid mwyaf addas ar gyfer eich busnes neu brosiect. Mae gan y mwyafrif o gyrff cyllido wefannau gyda gwybodaeth i’ch tywys drwy’r broses – darllenwch yr wybodaeth yn ofalus ac os, ar ôl eich ymchwil, rydych chi dal yn ansicr os ydy eich prosiect yn gymwys, cysylltwch a’r corff yn uniongyrchol.

Cofiwch, bydd y mwyafrif o gyllidwyr yn gofyn i chi ddarparu rhyw fath o arian hafal h.y. ni fyddant yn gallu rhoi 100% o’r cyllid yr ydych ei angen. Ceir gwybodaeth gan y cyrff cyllido ar beth sydd yn dderbyniadwy fel arian hafal. Bydd rhai yn gadael i chi gynnwys eich amser fel cyfraniad i arian hafal. I gloi, gwnewch yn siwr eich bod yn gadael digon o amser i gynnig am y cyllid yr ydych ei hangen.; peidiwch a dechrau’r prosiect cyn i chi gael ateb ynglyn â’r cais. Po fwyaf y swm o arian yr ydych yn ceisio amdano, yr hiraf y bydd yn rhaid i chi aros am y penderfyniad. Cynlluniwch i wneud yn siwr eich bod yn derbyn yr arian pan yr ydych ei angen.

Os ydych yn chwilio am gymorth gyda costau cychwynnol eich busnes, mae posib y gallwch gael cymorth oddiwrth eich Awdurdod Lleol, er mae’r rhan fwyaf o’r ffynonellau yma wedi eu hanelu at fusnesau sydd yn mynd i greu swyddi. Gall Llygad Busnes eich helpu i ddod o hyd i’r math yma o gyllid. www.llygadbusnes.org.uk

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth gyda eich costau cychwynnol, mae yna gynlluniau i helpu gyda costau arbennig e.e. Go Wales (www.gowales.co.uk -cymorth ariannol ar gyfer hyfforddi staff sydd yn raddedigion), Cyfle Cymru ( www.opportunitywales.co.uk - cymorth e-efasnach i fusnesau yn ardal Amcan un a dau Cymru), IP Wales fasnach (www.ipwales.com - cymorth gyda chostau cymorth cyfreithio).

4. Cynllun Busnes

Dylai eich cynllun busnes fod yn ddogfen byw sy’n cael ei ddefnyddio i helpu rheoli gweithrediad eich busnes/prosiect ac i hysbysu eraill ynglyn â’ch syniadau a chynlluniau. Mewn termau syml, dylai eich cynllun busnes:

Fel teclyn rheoli mae cynllun busnes yn eich galluogi i arolygu eich datblygiad, i bennu a chyflawni dyddiadau cwblhau ac i symud ymlaen i'r cam nesaf. Ceir enghreifftiau o gynlluniau busnes yn: http://www.business-plans.co.uk/

5.Llenwi’r ffurflen gais

Mae’r ffurflen gais yn rhoi’r cyfle i chi i ddweud wrth y cyllidwr am eich busnes/prosiect. Bydd y cyllidwr eisiau gwybod amdan sut y mae eich syniad chi yn cyfateb eu hamcanion. Byddwch yn siwr o ateb pob cwestiwn a dwedwch sut yr ydych yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer yr arian yr ydych yn ceisio amdano.

Cyn dechrau, gwnewch gopïau sbâr er mwyn ymarfer. Gadewch digon o amser I ysgrifennu a ail ddarllen y cais cyn y dyddiad cau a cadwch gopi o bopeth. Gwnewch yn siwr bod eich manylion cyswllt yn glir a rhowch wybod iddynt os ydy eich amgylchiadau yn newid.

6. Gair i Gall

7. Ffynonellau Gwybodaeth

http://www.business-plans.co.uk/ - cyngor ar sut i ysgrifennu cynllun busnes a dolenni i dempledi.

http://businessplanhelp.co.uk - cyngor ar sut i ysgrifennu cynllun busnes a dolenni i dempledi.

http://www.artswales.org.uk ­ Cyngor Celfyddydau Cymru

http://www.cywaithcymru.org ­ Cyllid i brosiectau celf cyhoeddus yng Nghymru

http://www.academi.org ­ Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Awduron

http://www.musictank.co.uk/funding_res.htm - Gwybodaeth ar gyllid cychwynnol ar gyfer y diwydiant cerdd

http://www.j4b.co.uk/ - cronfa ddata grantiau

http://www.artquest.org.uk/funding/ - gwybodaeth a chyngor ar ddod o hyd i gyllid

http://www.britishcouncil.org/arts-creative-business-funding.htm - cyngor a dolenni ar gyllid i fusnesau creadigol

http://www.wcva.org.uk ­Cyngor a gwybodaeth ar gyllid i'r sector gwirfoddol

7. Rhestr Ddarllen

Islaw ceir rhestr o lyfrau awgrymedig sy'n cynnwys gwybodaeth bellach ar y pwnc hwn. Mae pob teitl wedi ei gysylltu i dudalen Amazon, sy'n cynnwys manylion y cyhoeddwr, adolygiadau cwsmeriaid a'r cyfle i brynu eich llyfrau ar-lein.

© Menter Diwylliannol 2005