Anwybyddu Morwryaeth

Prisio'ch Gwaith : Taflenni Gwybodaeth Menter Diwylliannol

Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Cyfrifo cost cynhyrchu
  3. Cyfrifo Cyfradd
  4. Comisiynau
  5. Ymchwilio i'r Farchnad
  6. I Gloi
  7. Ffynonellau pellach o wybodaeth

1. Cyflwyniad

Mae hynod anodd prisio'ch gwaith ond os ydych o ddifrif am redeg busnes creadigol yr ydych yn bwriadu ennill eich bywoliaeth ohono, rhaid i chi fod yn realistig ynghylch gwerth eich gwaith. Mae sawl ffordd o bennu pris am eich gwaith - trwy gyfrifo'ch costau a'ch gorbenion, cyfrifo faint sy'n rhaid i chi ei ennill mewn blwyddyn, neu trwy ymchwilio i faint mae eich cystadleuwyr yn ei godi. Y ffordd fwyaf dibynadwy i ddatblygu strwythur prisio yw defnyddio cyfuniad o'r dulliau hyn i sicrhau eich bod chi'n gallu gwerthu eich gwaith am bris rhesymol sy'n eich galluogi i ennill bywoliaeth. Fodd bynnag, y pris cywir yw'r pris mae'r cwsmer yn barod i'w dalu.

2. Cyfrifo cost cynhyrchu

Er mwyn cyfrifo cost eitem, dylid ystyried yr holl ddeunyddiau a'r gorbenion gan gynnwys:

Gellir defnyddio'r fformiwla isod i gyfrifo cost eich cynnyrch;

DEUNYDDIAU + AMSER + (GWAITH ALLANOL / T.A.W.(Os yn berthnasol)) = COSTAU CYNHYRCHU

COSTAU CYNHYRCHU + YCHWANEGIAD ELW(%) = PRIS CYFANWERTHU

PRIS CYFANWERTHU + YCHWANEGIAD ELW (%) = PRIS ADWERTHU

Pan fydd gennych syniad gweddol dda o bris eich gwaith efallai na fydd angen i chi ddefnyddio'r fformiwla hon, fodd bynnag mae'n syniad da bwrw golwg ar eich prisiau o dro i dro er mwyn bod yn siwr eich bod yn cynnal elw boddhaol.

3. Cyfrifo Cyfradd

Os ydych yn cynnig gwasanaeth yn hytrach na chynnyrch, neu os ydych yn tueddu i weithio ar gomisiwn, gall cyfrifo cyfradd fesul diwrnod neu awr fod yn fwy effeithiol. Mae'r dull ar gyfer gwneud hyn yn ystyried nifer o'r un ffactorau ag i gyfrifo cost cynhyrchu, ond y man cychwyn yw faint sydd angen i chi ei ennill mewn blwyddyn yn hytrach na chost pob eitem.

Dechreuwch gyda chyflog blynyddol realistig angenrheidiol sy'n cynnwys eich costau byw a rhannwch y ffigur hwn gyda nifer yr oriau gwaith mewn blwyddyn (cofiwch y gall fod cyfnodau pan na fyddwch yn gallu dod o hyd i waith). Gall Treuliau Blynyddol gynnwys (ymhlith eraill); Rhent/Morgais, trethi busnes, yswiriant, cyfleustodau, gwariant/cynnal a chadw offer, deunyddiau ysgrifennu ac ati, postio, marchnata, teithio, pensiynau, costau arddangos, tanysgrifiadau, a chyngor proffesiynol (e.e. cyfrifwyr, cyfreithwyr ac ati).

Mae sawl corff proffesiynol wedi datblygu canllawiau prisio i'n cynorthwyo i sicrhau arferion da ymhlith ymarferwyr sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain, er enghraifft, mae pecyn cymorth ffioedd, sy'n rhoi arweiniad cam wrth gam ar gyfrifo cyfradd ddyddiol a pharatoi dyfynbrisiau ar gyfer gwaith ar eich liwt eich hun ar gael ar wefan AN (www.a-n.co.uk ); (gweler yr adran ar ddolenni isod am fwy o wybodaeth).

Bydd y fformiwla isod o gymorth hefyd i gyfrifo cyfradd yr awr/diwrnod;

CYFANSWM TREULIAU BLYNYDDOL / NIFER YR WYTHNOSAU GWAITH (e.e. 48) / NIFER YR ORIAU GWAITH YR WYTHNOS (e.e.40) = CYFRADD YR AWR

Os ydych chi'n gweld bod eich cyfraddau yn rhy uchel, gall fod yn ddefnyddiol cael ffynhonnell arall o incwm law yn llaw â'ch gwaith proffesiynol, megis addysgu, gwaith gweinyddol rhan-amser, darparu gwasanaethau technegol i ymarferwyr eraill ac ati.

4. Comisiynau

Pan fyddwch yn gweithio i gomisiwn bydd angen i chi amcangyfrif cost y deunyddiau a'r amser. Dylech ychwanegu 20% wrth gefn bob amser; mae'n llawer gwell i'ch pris terfynol fod yn is na'r dyfynbris na bod yn rhaid i chi godi mwy ar eich cwsmer neu ysgwyddo'r gost ychwanegol eich hun.

Cofiwch fod dyfynbris yn rhwymol; rhaid darparu am y pris hwnnw. Dyfynbris yw'r hyn y mae'n ei ddweud, ond dylech ddweud wrth y cleient cyn gynted â phosib os ydych chi'n mynd dros y pris a thrafod ffigurau newydd. Os yw cleient yn mynnu cael dyfynbris dylech chi gynnwys swm wrth gefn. Gwnewch yn siwr bod yr holl ohebiaeth ar bapur a lluniwch gytundeb comisiwn y bydd y ddau barti yn ei lofnodi. Gellir cael gwybodaeth am gontractau ar www.a-n.co.uk, www.artquest.org.uk a www.itc-arts.org .

5. Ymchwilio i'r Farchnad

Mae ymchwilio i'r farchnad yn ffordd o ganfod a yw eich prisiau yn gystadleuol ac yn adlewyrchu'ch profiad. Gall pris cynnyrch creadigol gael ei bennu ar sail enw da a phrofiad y sawl sy'n creu yn ogystal ag ystyriaethau ymarferol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod yn onest â chi eich hun o safbwynt ble'r ydych chi wedi cyrraedd yn eich gyrfa; ni all rhywun sydd newydd raddio ddisgwyl gwerthu ei waith am yr un pris â rhywun sydd wedi treulio ugain mlynedd yn magu enw da.

Wrth ymweld ag orielau, siopau adwerthu, gwefannau ac ati, buan iawn y byddwch yn datblygu graddfa brisio ac yn gallu lleoli'ch cynnyrch/gwasanaeth o fewn y raddfa hon. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, gallwch weld a fyddai eich marchnad fwriedig yn gallu fforddio'r pris. Os yw eich costau neu gyfraddau cynhyrchu yn rhy uchel i'r farchnad efallai y bydd yn rhaid i chi ystyried newid neu addasu eich cynnyrch/gwasanaeth, er enghraifft, trwy;

Wrth i'ch gwaith ddatblygu, byddwch yn gallu codi'ch prisiau. Gall y rhesymau dros wneud hynny gynnwys clod beirniadol cyson, casglwyr yn prynu'ch gwaith, y galw yn fwy na'r cyflenwad, neu chwyddiant.

6. I Gloi

7. Ffynonellau pellach o wybodaeth

http://www.a-n.co.uk - argymell cyfraddau tâl ar gyfer arlunwyr gweledol a chrefftwyr

http://www.theaoi.com - argymell cyfraddau tâl ar gyfer darlunwyr

http://www.bectu.org.uk - argymell cyfraddau tâl ar gyfer darlledwyr ac animeiddwyr

http://www.equity.org.uk - argymell cyfraddau tâl ar gyfer actorion

http://www.itc-arts.org - argymell cyfraddau tâl ar gyfer sefydliadau celfyddydau perfformio (a ddatblygwyd mewn cysylltiad ag Equity)

http://www.musiciansunion.org.uk - argymell cyfraddau tâl ar gyfer cerddorion

http://www.ism.org - argymell cyfraddau tâl ar gyfer cerddorion

http://www.writersguild.org.uk - argymell cyfraddau tâl ar gyfer awduron

http://www.thedesigntrust.co.uk - canllawiau cychwyn busnes y gellir eu lawrlwytho sy'n cynnwys gwybodaeth am brisio a chostio

© Menter Diwylliannol 2005

Gyda diolch arbennig i Martin Pollecoff (Cynghorydd Marchnata - 07802 338773)