Sefydlu Busnes Celfyddydol: Taflenni Gwybodaeth Menter Diwylliannol
Cynnwys
- Cyflwyniad
- Cymryd y Cam
- Ymchwil
- Byddwch yn realistig ynglyn ag arian
- Lleoliad / Eiddo
- Hyblygrwydd
- Ffynonellau Gwybodaeth
- Rhestr Ddarllen
1. Cyflwyniad
Mae sefydlu busnes celfyddydol neu sefydlu eich hun fel ymarferwr hunan gyflogedig fel sefydlu unrhyw fath o fusnes ac mae angen cryn dipyn o gynllunio a meddwl. Mae'r wybodaeth sy'n dilyn yn amlinellu chwe peth i'w ystyried cyn cychwyn eich busnes.
Pam ydych chi'n gwneud hyn?
- Ceisiwch sefydlu athroniaeth bersonol beth ydych chi eisiau ei gyflawni?
- Pennwch amserlen hyblyg i'ch amcanion rhywbeth i anelu ato dros 5 mlynedd
- Pa fath o fusnes? Lle ydych chi am fod ar y raddfa symudol hon?
Artist ag egwyddor (‘cynnyrch' yn gyntaf)
a
Entrepreneur caled (elw gyntaf)
Mae'r unigolyn busnes entrepreneuraidd yn cael ei arwain gan elw yn unig, nid yw'n pryderu cymaint am y math o gynnyrch. Byddai gwneud darnau unigol o ddodrefn drud yn ddull posib o wneud arian. Ond, fodd bynnag, os na fyddai'r gweithgaredd hwn yn cyflawni amcanion ariannol y busnes, byddai'n cael ei ddirwyn i ben o blaid cynnyrch neu wasanaethau a fyddai'n cynhyrchu mwy o elw.
Mewn cyferbyniad, mae yr artist ag egwyddor (gweler uchod) yn dyheu i wneud dodrefn hardd ac efallai y bydd yn barod i addasu ei amcanion economaidd yn hytrach na ‘chyfaddawdu ar ei gelfyddyd'
2. Cymryd y Cam
Byddwch yn barod i fentro! Mae yna lawer o gymorth ar gael i'ch helpu i ddechrau busnes. Defnyddiwch y sefydliadau niferus sydd ar gael i'ch cynorthwyo. e.e. Llygad Busnes, cynghorwyr Busnesau Bach mewn banciau.
Mae yna gred na all artist lwyddo ym myd busnes, gan fod hynny'n niweidio'i greadigrwydd. Fodd bynnag, does dim byd rhyfeddol am fod yn berson busnes. Mae synnwyr cyffredin, ymchwil trwyadl a bod yn drefnus yn hanfodol. Mae sgiliau eraill fel meddwl yn greadigol, y gallu i ddatrys problemau, Sgiliau cydweithredu a chyfathrebu'n dda yn barod yn rhan o'r broses greadigol. Gall sgiliau busnes fel cadw cyfrifon cael eu dysgu (neu gellir prynu y sgil oddi ar unigolion eraill).
3. Ymchwil
Pwrpas ymchwil i'r farchnad yw i gasglu gwybodaeth a chyngor. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu ar sut i brisio eich gwaith, pa gwsmeriaid i dargedu, lle i leoli eich busnes ac yn y blaen. Mae yna lawer o gyhoeddiadau rhagorol er enghraifft “Rhowch Hwb i'ch perfformiad” gan y Cyngor Celfyddydau a gwefannau fel www.a-n.co.uk i'ch helpu.
Ceisiwch gael sgwrs gydag ymarferwyr sydd â phrofiad yn y maes yr ydych ar fin ymuno ag ef, ac os ydych yn mynd i werthu cynnyrch mynnwch sgwrs gydag asiantaethau sy'n debygol o'ch cynorthwyo i werthu eich gwaith.
Cofiwch hyrwyddo eich busnes mae hysbysebu'n ddrud meistrolwch y grefft o lunio datganiad i'r wasg!
4. Byddwch yn realistig ynglyn ag arian
Efallai y bydd y syniad o godi/cael benthyg arian yn eich dychryn, yn enwedig os ydych wedi bod yn fyfyriwr yn ddiweddar! Fodd bynnag gall eich busnes ddioddef oherwydd diffyg buddsoddi cyfalaf.
‘Bwrdd y Gegin Ychydig neu ddim Buddsoddi Cyfalaf
a
Stiwdio Drefol Cyfalaf gweithio sylweddol
Gall ochr chwith y raddfa edrych yn eithaf deniadol i ddechrau ond a yw'n briodol i amcanion eich busnes? Beth yw eich costau? A fyddwch yn codi digon o elw i ddarparu cyflog misol i'ch hun?
5. Lleoliad / Eiddo
Yn y byd modern, nid yw lleoliad daearyddol busnesau celfyddydol mor bwysig gyda'r posibilrwydd o farchnata ar-lein ac ati. Fodd bynnag mae'n dal yn wir yn ystadegol bod y rhan fwyaf o stiwdios celfyddyd gymhwysol wedi'u lleoli mewn ardaloedd trefol mawr.
Mae sawl elfen i'w hystyried
- Pa mor hawdd yw mynediad i gyflenwadau a gwasanaethau
- Pa mor hawdd yw mynediad i fannau gwerthu a marchnadoedd
- Costau cludo
- Costau cyffredinol o'u cymharu â chostau teithio mae'n rhatach rhedeg stiwdio yng nghefn gwlad ond rhaid ystyried pa mor aml y mae angen i chi fod mewn tref neu ddinas i werthu eich gwaith neu i ddod o hyd i gyflenwyr ac ati.
- Ffordd o fyw
- Rheoliadau Cynllunio
6. Hyblygrwydd
Mae'n anghyffredin i ymarferwr creadigol lwyddo cynnal eu hunan trwy un busnes neu yrfa, mae'r gallu i addasu i'r galw yn gallu ychwanegu sefydlogrwydd i fenter. Pa sgiliau eraill sydd gennych sy'n cynnig ffynonellau ariannol arall?
- A fedrwch chi werthu'ch 'cynnyrch' yn uniongyrchol i unigolion preifat asiantaethau man gwerthu eich hun ffeiriau masnach archebu trwy'r post ar-lein cwmnïau adwerthu orielau sioeau cymysg / unigolyn arddangosfeydd teithiol comisiynau ac ati
- Oes gennych sgiliau technegol neu weinyddol - ar gyfer artistiaid, sefydliadau neu gwmnïau
- Addysgu cynradd / uwchradd AB / AU canolfannau cymuned/celfyddyd
Mae'r gallu i weithio mewn cymaint o feysydd â phosib yn ychwanegu dyfnder a hyblygrwydd pan fo un maes yn araf gall maes arall gymryd drosodd. Yn ymarferol, wrth gwrs, yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd yw bod yr holl gynigion/cyfleoedd yn dod gyda'i gilydd!
I gloi, mae bod yn fos arnoch chi eich hun yn y celfyddydau yn gallu bod yn waith caled, yn her ac yn gallu rhoi boddhad mawr. Os ydych wedi penderfynu fod gennych yr amser, y sgiliau a'r ymroddiad i ddatblygu eich busnes neu ymarferiad bydd angen:
- Syniad arloesol da, neu'n well fyth, cyfres o syniadau
- Credu yn yr uchod a gallu bod yn frwdfrydig amdanynt
- Ymchwil o ansawdd a blaengynllunio
- Rhwydweithio a chysylltiadau da
- Hyblygrwydd os nad yw pethau'n mynd yn ôl y bwriad
- Bod yn benderfynol, meddwl yn bositif / law yn llaw â hunanfeirniadaeth wrthrychol
7. Ffynonellau Gwybodaeth
http://www.businesslink.gov.uk Cyngor busnes gyffredinol
http://www.business-plans.co.uk/ - Cyngor ar sut i ysgrifennu cynllun busnes
http://www.companieshouse.gov.uk/about/pdf/gbf1.pdf - cyngor ar sut i ffurfio cwmni
http://www.hmrc.gov.uk/businesses/tmastarting-up-in-business.shtml - cyngor ar sut i gychwyn busnes
http://new.wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/?lang=en
http://www.llygadbusnes.org.uk/
8. Rhestr Ddarllen
Islaw ceir rhestr o lyfrau awgrymedig sy'n cynnwys gwybodaeth bellach ar y pwnc hwn. Mae pob teitl wedi ei gysylltu i dudalen Amazon, sy'n cynnwys manylion y cyhoeddwr, adolygiadau cwsmeriaid a'r cyfle i brynu eich llyfrau ar-lein.
- Writers' and Artists' Yearbook 2007, Ian Rankin
- Children's Writers' and Artists' Yearbook 2007, Meg Cabot
- Research for Writers, Ann Hoffmann
- 101 Ways to Make a Poem Sell: The Salt Guide to Getting and Staying Published, Chirs Hamilton-Emery
- Photographeris Market Guide to Building Your Photography Business: Everything You Need to Know to Run a Successful Photography Business, Vik Orenstein
- Five Star Service, One Star Budget: How to Create Magic Moments for Your Customers That Get You Noticed, Remembered and Referred, Michael Heppell
- Starting an Online Business for Dummies, Greg Holden
- Starting a Business on eBay.co.uk For Dummies, Dan Matthews
© Menter Diwylliannol 2005

