MENTER DIWYLLIANNOL ADRODDIAD BLYNYDDOL 2003/2004
Cynnwys
1. Rhagymadrodd
1.1. Rhagymadrodd Prif Weithredwraig
2. Beth Rydyn Ni'n Ei Wneud
2.1. Gwasanaeth Gwybodaeth
2.2. Gwasanaeth Mentoriaeth
2.1. Gwasanaeth Ymgynghoriaeth
3. Y Bwrdd
4. Cyraeddiadau 2002-04
5. Yn 2004-05 Mae Menter Diwylliannol Yn Bwriadu
6. Manylion Cyswllt
5. Cwynion
CROESO I'R ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNTAF/CYFEIRLYFR GWASANAETHAU A GYNHYRCHWYD GAN MENTER DIWYLLIANNOL. RYDYM AM GYMERYD Y CYFLE YMA I DDWEUD WRTHYCH PWY YDYM, BETH RYDYM YN EI WNEUD AC AMLYGU Y DULLIAU GALLWN NI EICH HELPU CHI.
FELLY, PWY YDYM NI?
A PHWY YDYCH CHI?
Mae Menter Diwylliannol yn gwmni di-elw cyfyngedig trwy warant a sefydlwyd ym 1995 i ddarparu cyngor busnes arbennig a mentoriaeth i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae'r gwasanaethau yma wedi datblygu dros Gymru gyfan.
Caiff Menter Diwylliannol ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd Datblygu Cymru - mae'r cyllid yma yn ein galluogi i ddarparu y gwasanaethau yma yn rhad ag am ddim I ymarferwyr unigol, micro fusnesau a mentrau bach a chanolig eu maint sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae'r diwydiannau creadigol yn cynnwys cerddoriaeth, theatr, dawns a phop, teledu, radio, ffilm, animeiddio a chyfryngau newydd, graffeg a chynllun cynnyrch, ffasiwn a phensaernïaeth, crefft, celf gweledol, ysgrifennu a chyhoeddi.
Mae Menter Diwylliannol yn darparu gwasanaethau gogyfer a busnesau sy'n gwneud cynnyrch creadigol, y rhai hynny sy'n gwerthu a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau marchnata i'r sector.
Mae cleientiaid Menter Diwylliannol ar bob lefel o'u datblygiad, o'r rhai sydd a chnewyllyn syniad i'r rhai sydd yn sefydlog - ac o gleientiaid heb brofiad o gwbl i rai sydd a record gyrfa gref.
Os ydym yn swnio fel y math o fudiad hoffech wybod mwy amdanom, darllenwch ymlaen - neu cysylltwch a ni yn ein swyddfa yng Nghaerdydd (ffôn: 029 2034 3205) neu edrychwch ar ein gwefan (www.cultural-enterprise.com)
1.1 RHAGYMADRODD PRIF WEITHREDWRAIG
Bydd rhai pobl sydd yn gyfarwydd a mi wedi fy nghlywed yn dweud fod ymarferiad busnes da yn ymarferiad busnes da; mae natur y busnes yn eilradd. I fod yn llwyddiannus - beth bynnag byddo eich diffiniad o lwyddiant personol a llwyddiant busnes - bydd angen i chwi reoli eich busnes yn dda. Wrth gwrs, mae eithriadau ble mae lwc yn sicrhau canlyniadau positif i rai unigolion, ond mae'r rhain yn lleiafrif bach iawn.
Ym Menter Diwylliannol mae gennym dîm o ymarferwyr profiadol sy'n darparu cyngor busnes, gwybodaeth a mentoriaeth; rydym i gyd yn gysylltiedig a chreadigrwydd ac yn ymwybodol pa mor bwysig ydyw i gadw cywirdeb y busnes yng nghraidd ein gwaith. Fe siaradwn ni a chi mewn iaith sy'n ddealladwy i chi - dyna ein gwasanaeth cyfieithu ni - ac mae'n gweithio!
Mae rhedeg Menter Diwylliannol yn anrhydedd - faint o swyddi sy'n cynnig cyfle i chi alluogi pobl i wireddu eu breuddwydion? Darparwn wasanaethau i gyrraedd eich anghenion arbennig chi - mae ein brwdfrydedd ni am ein gwaith (fel arfer) yn sicrhau y bydd gweithio gyda ni yn brofiad pleserus, boddhaol a defnyddiol.
Os ydych yn barod yn gweithio gyda Menter Diwylliannol yna gobeithiaf cawn eich gweld eto yn fuan; os ydych yn newydd i Fenter Diwylliannol cysylltwch os gwelwch yn dda a chawn weld sut gallwn weithio gyda'n gilydd i wireddu eich breuddwyd chi a chyflawni eich potensial busnes.
Frances Medley
PRIF WEITHREDWRAIG
Cenhadaeth Menter Diwylliannol yw i annog a chefnogi y diwydiannau creadigol yng Nghymru i gyrraedd eu potensial economaidd llawn. Gwnawn hyn trwy ddarparu:
- GWASANAETH GWYBODAETH
- GWASANAETH MENTORIAETH BUSNES ARBENNIG
- GWASANAETH YMGYNGHORI
Darperir y GWASANAETHAU GWYBODAETH a MENTORIAETH yn rhad ac am ddim i fusnesau sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Darperir y gwasanaeth YMGYNGHORIAETH ar sail taliad ffi amrywiol a gellir ymgymryd a hwn yng Nghymru ac ymhellach.
Rheolir y gwasanaeth gwybodaeth gan Elin Lloyd Jones y Rheolwraig Gwybodaeth,
ac mae hi wedi ei lleoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Mae Elin yn ymarferydd
gwybodaeth profiadol fu yn flaenorol yn rheoli gwasanaeth gwybodaeth "Galw
Iechyd Cymru" a Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Cymru, Gwasanaeth Siarter Gwybodaeth
Cleifion. Tu allan i'r gwaith mae Elin a'i phartner, o bryd i'w gilydd yn
rhyddhau miwsig ar eu
label record 'Magic Plastic', ac mae hyn yn ei galluogi i weld sut mae'r agwedd
yma o'r diwydiant cerdd yn gweithio.
Y gwasanaeth gwybodaeth yw'r man cyswllt cyntaf i'r mwyafrif o gleientiaid, mae'r gwasanaeth yn gweithredu o'r swyddfa yng Nghaerdydd a'r bwriad yw i gynorthwyo busnesau cleientiaid trwy gynnig gwybodaeth ac ymchwil sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd o'u busnes.
Mae'r gwasanaeth gwybodaeth yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- gwasanaeth gwybodaeth dros y ffôn
- llyfrgell a chanolfan gwybodaeth yng Nghaerdydd
- y wefan
- e-bwletin wythnosol
Gellir cyrraedd y GWASANAETH GWYBODAETH ffôn trwy ffonio 029 2034 3205 rhwng 10 o'r gloch y bore a 5 o'r gloch yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall y gwasanaeth gwybodaeth ffôn:
- ddarparu gwybodaeth cyffredinol am Fenter Diwylliannol
- dderbyn ymholiadau am wybodaeth fanwl ac ymgymryd ag ymchwil ar ran y galwr
- ddweud wrthych pa bryd bydd y llyfrgell a'r ganolfan wybodaeth ar agor i'r cyhoedd, a threfnu i chi gyfarfod a rhywun a all eich cynghori ar ymholiadau yn ymwneud a gwybodaeth a chyllid
- eich cyfeirio at fentor os oes angen
- trefnu i rywun ddod i fynychu digwyddiad a/neu siarad a'ch mudiad am y gwasanaethau mae Menter Diwylliannol yn gallu cynnig
Bydd y LLYFRGELL A'R GANOLFAN GWYBODAETH yng Nghaerdydd ar agor i'r cyhoedd o fis Medi 2004 a bydd yn darparu'r canlynol:
- mynediad i lyfrgell sy'n cynnwys dros 600 o gyhoeddiadau a llyfrau y diwydiannau creadigol a chelfyddydol
- mynediad i amrediad eang o gylchgronau a chyfrifolion ac erthyglau papurau newydd sy'n berthnasol i'r sector
- mynediad i wybodaeth ar y gronfa ddata (naill ai trwy aelod o'r staff neu ar eich pen eich hun)
- mynediad i gyngor a gwybodaeth am ffynonellau cyllid a gynigir gan elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau trwy'r DU
- cymorth gyda ymchwil i mewn i sefydlu a/ neu ddatblygu busnes creadigol
Gall y WEFAN (www.cultural-enterprise.com) ddarparu mynediad i wybodaeth am wasanaethau Menter Diwylliannol a chyfle I gyfeirio ymholiadau at y tîm gwybodaeth yn uniongyrchol. Stefhan Caddick, y Swyddog Datblygu sydd wedi ei leoli yn y swyddfa yng Nghaerdydd, sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y sustemau TG gan gynnwys y gronfa ddata gwybodaeth, sustem cofnodi cleientiaid a'r wefan. Tu allan i'w waith mae’n ymarferydd celf gweledol, yn gweithio mewn gosodiad cyfarpar swˆn a perfformio, ac mae yn gynllunydd print a gwe.
Mae'r E-BWLETIN wythnosol yn darparu mynediad i grynodeb
o'r gwybodaeth cyfredol
am ffynonellau marchnata, cyllid a chyfleoedd eraill sydd ar gael i'r sector.
I danysgrifio i'r e-bwletin ewch i'r wefan a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Mae'r GWASANAETH MENTORIAETH yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol un wrth un i ymarferwyr diwydiannau creadigol a micro fusnesau. Darperir y gwasanaeth yma trwy rwydwaith o fentoriaid dros Gymru a gellir eu cyrraedd trwy gysylltu a'r ganolfan gwybodaeth, yna caiff cyfeiriad ei wneud i'r mentor delfrydol.
Y mentoriaid sy'n gweithio i Menter Diwylliannol yw:
JILL PIERCY
Ardal Daearyddol: Ceredigion
Wedi ei lleoli yn: Ystrad Meurig, ger Aberystwyth
Dyddiau gwaith: Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Iau
VICTORIA CALLEN
Ardal Daearyddol: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin (dim Llanelli) a De Ceredigion
Wedi ei lleoli yn: Llechryd
Dyddiau gwaith: Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau
ANDREW COOMBER
Ardal Daearyddol: Sir Fflint,Wrecsam, Sir Ddinbych
Wedi ei lleoli yn: Treffynnon
Dyddiau gwaith: Dydd Mawrth a Dydd Mercher
TERENCE DIMMICK
Ardal Daearyddol: Cymoedd De Cymru
Wedi ei lleoli yn: Caerdydd
Dyddiau gwaith: Dydd Llun a Dydd Mawrth
SWYDD WAG AR YN PRYD
Ardal Daearyddol: Abertawe, Castell Nedd Porth Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr
a Llanelli
MARI BEYNON OWEN
Ardal Daearyddol: Caerdydd a Bro Morgannwg
Wedi ei lleoli yn: Caerdydd
Dyddiau gwaith: Dydd Mercher a Dydd Iau
MARIA HAYES
Ardal Daearyddol: Conwy, Gwynedd a Sir Fôn
Wedi ei lleoli yn: Blaenau Ffestiniog
Dyddiau gwaith: Dydd Llun a Dydd Mawrth
JULIAN MALLORY SKINNER
Ardal Daearyddol: Casnewyd a Sir Fynwy
Wedi ei lleoli yn: Abergavenny
Dyddiau gwaith: Dydd Mawrth a Dydd Mercher
RICHARD KING
Ardal Daearyddol:Powys
Wedi ei lleoli yn: Erwood
Dyddiau gwaith: Dydd LLun a Dydd Mawrth
Yn ogystal a'r tîm mentoriaid mae Menter Diwylliannol yn cyflogi ROBERT
CHRISTIE, rheolwr y Cwmni, sy'n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd
ac mae e'n gyfrifol am reolaeth y cwmni gan gynnwys cyllid, diogelwch ac iechyd,
a materion personél a chyfreithiol. Cyfraith a cyfrifyddiaeth yw cefndir
Rob; mae'n gyfreithiwr cymwysedig.
Gall y GWASANAETH YMGYNGHORIAETH ddarparu mynediad i gyngor arbenigol ar sail taliad ffi. Frances Medley, y Brif Weithredwraig sy’n arwain y gwaith ymgynghorol gan dynnu i mewn cyd weithwyr eraill fel bo angen. Mae'r math o waith mae Menter Diwylliannol ym ymgymryd a yn cynnwys y canlynol:
- datblygiad prosiectau gan gynnwys astudiaethau ffiniau ac astudiaethau dichonoldeb
- datblygiad cynlluniau a strategaethau busnes a marchnata
- adolygiad a datblygiad polisi
- ymgymryd ag ymgyrchoedd recriwtio ar ran unigolyn neu fudiad
- datblygiad gwasanaeth gan gynnwys strwythurau staffio, disgrifiad swydd, a modelau o drosglwyddo gwasanaeth
- ymgynghoriaeth gyda chleientiaid cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth
- hyrwyddo a threfnu digwyddiadau
Ystyrir pob math o prosiectau a rhown gyngor ar bwy ddylech gysylltu a os na fedr Menter Diwylliannol helpu.
"Mae Menter Diwylliannol yn ymwneud a darparu cefnogaeth busnes i unigolion a busnesau sydd yn nodweddiadol ddim yn cael eu cyrraedd trwy ffrydiau darparwyr cefnogaeth busnes yng Nghymru..." Meirion Thomas
Mae Menter Diwylliannol yn gwmni cyfyngedig trwy warant a reolir gan fwrdd rheolaeth annibynnol.
Mae'r bwrdd yn goruchwylio gwaith y mudiad i sicrhau rheolaeth dda gan gynnwys rheolaeth cyllid a staff gadarn yn ogystal a throsglwyddo gwasanaethau o safon da i'r busnesau a weithiwn gyda nhw. Arweinir fwrdd Menter Diwylliannol gan y Cadeirydd Meirion Thomas sy'n gweithio yn adran Arsyllfa Gogyfer a Arloesi a Datblygu Busnes yn Ysgol Fusnes Caerdydd, ac mae yn bartner yn yr Ymgynghoriaeth Rheolaeth Ewropeaidd CMI International.
"Mae Menter Diwylliannol yn ymwneud a darparu cefnogaeth busnes i unigolion a busnesau sydd yn nodweddiadol ddim yn cael eu cyrraedd trwy ffrydiau darparwyr cefnogaeth busnes yng Nghymru. Gallwn drosglwyddo’r gwasanaethau dim ond os yw'n cleientiaid a'n partneriaid yn hollol ymwybodol o'n gweithgareddau a'n galluogrwydd i helpu.
Mae'r adroddiad blynyddol yma felly yn ddatganiad o pwy ydym ni ac yn brosbectws i'r rhai a weithiwn gyda nhw a rydwyf wrth fy modd ein bod yn gallu, gyda chymorth Bwrdd Datblygu Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau."
AELODAU’R BWRDD YW:
ALLIE SYMONDS, Cyfarwyddwr Gweithredol 'Sequence', cwmni
datblygiad gwefannau wedi ei leoli yng Nghaerdydd.
STEVE CRANSTON, Prif Weithredwr 'Arts Factory Ltd'.
SUE EMMENS, partner yn 'Blue Sky Solutions'.
JOHN HARDY, cyfansoddwr sy'n gweithio ar ei liwt ei hun.
DAFYDD HUGHES, Prif Weithredwr TAC, yr undeb llafur gogyfer
a chynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol Cymraeg.
DAVID CLARKE sy'n rhedeg busnes ymgynghoriaeth gogyfer a
diwydiannau creadigol DCA (Caerdydd) Limited.
RHYS MWYN sydd ar hyn o bryd yn rheoli'r band merched TNT,
a'r gantwraig/ gyfansoddwraig Gwenno. Mae yn gweithio ar liwt ei hun fel asiant,
hyrwyddwr ac A&R i fandiau roc/pop Cymraeg.
MYLES PEPPER, Ymgynghorwr Busnes Celf sydd hefyd yn rhedeg
oriel Canolfan Celf Gorllewin Cymru, yn Ninbych y Pysgod.
PHIL GEORGE,Cyfarwyddwr 'Green Bay Media', cwmni cynhyrchu
wedi ei leoli yn Ne Cymru sy'n canolbwyntio ar raglenni dogfen teledu a ffilmiau
nodwedd.
ELIN PINNELL, partner yn 'Capital Law'.
- Tanysgrifiodd dros 900 o bobl i dderbyn yr e-bwletin wythnosol.
- derbyniodd 3170 o bobl wasanaeth gwybodaeth
- derbyniodd 957 gymorth, cyngor ac ymchwil
- mynychodd 1456 ddigwyddiadau ble roedd Menter Diwylliannol yn bresennol
- mynychodd 757 sgyrsiau a roddwyd gan Menter Diwylliannol
- Derbyniodd 912 o fusnesau cleientiaid fentoriaeth busnes arbennig.
5. YN 2004-05 MAE MENTER DIWYLLIANNOL YN BWRIADU:
E-bwletin: gwerthysu yr e-bwletin a sicrhau ei fod yn darparu'r gwybodaeth sydd angen arnoch chi. Bwriadwn ofyn os hoffech ei dderbyn yn Gymraeg - yn 2003 fe geision heb lwyddo i gael cyllid gogyfer a chynhyrchu yr e-bwletin yn ddwyeithog ond bwriadwn dal ati i ymgeisio i ddarparu hyn.
Dosbarthiadau meistr: Yn dechrau ym mis Medi/ Hydref bwriadwn redeg cyfres o ddosbarthiadau meistr trwy Gymru, ble byddwn yn gwahodd siaradwyr o feysydd eang i ddod i sgwrsio am eu gwaith. Gobeithiwn ddarparu rhain mewn partneriaeth a phrifysgolion, colegau ac asiantau/rhwydweithiau arbennig dros Gymru.
Sesiynau hyfforddiant: gall hyfforddiant fod yn ddrud, felly gobeithiwn brynu hyfforddiant perthnasol i ymarferiad busnes creadigol, ac yna ei werthu ymlaen i'n cleientiaid - yn y ffordd yma gobeithiwn y gallwch gael mynediad i hyfforddiant am ganran o'r gost. Gobeithiwn gynnwys partneriaeth ag ACAS a throsglwyddo cyrsiau sy'n ymwneud ac ymarferiad cyflogaeth
Rhwydweithio: mae nifer o gleientiaid wedi gofyn os gallwn
drefnu gweithgareddau rhwydweithio, a byddwn yn cynnwys cyfleoedd i rwydweithio
fel rhan o'r sesiynau dosbarthiadau meistr. O Fis Gorffennaf byddwn yn lliwio
(i ddechrau yng Nghaerdydd) model rhwydweithio yn seiliedig a 'sbîd
ganlyn' - cewch amlhau eich cyfleoedd o gyfarfod a busnesau gyda sgiliau a
phrofiadau perthnasol trwy arbed cael sgyrsiau
rhy hir gyda pobl dymunol ond anaddas at fusnes. Cofrestrwch a'n e-bwletin
i gadw mewn cyswllt.
Canolfan Gwybodaeth: bydd y ganolfan wybodaeth ar agor i'r
cyhoedd o fis Mediymlaen yn y prynhawn rhwng 2-5 o'r gloch ar Ddydd Mawrth
a Dydd Iau. Gallwch wneud trefniant i weld aelod o'r staff, neu gallwch ddod
i mewn i bori ymhlith y cylchgronau a chyhoeddiadau yn y llyfrgell. Yn ychwanegol
byddwn yn trefnu
sesiynau gwybodaeth o gylch Cymru - gwyliwch yr e-bwletin a'r wefan am fanylion.
Menter Diwylliannol
Chapter
Stryd y Farchnad
Caerdydd
CF5 1QE
Ffôn: 029 2034 3205 (10yb - 5yh Dydd Llun i Ddydd
Gwener)
Ffacs: 029 2034 5436
E-bost: mail@cultural-enterprise.com
Gwefan: www.cultural-enterprise.com
Caiff Menter Diwylliannol ei ariannu gan y Bwrdd Datblygu Cymru a'r Cyngor
Celfyddydau yng Nghymru
Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a dderbynioch oddi wrth Menter Diwylliannol
cysylltwch a'r Brif Weithredwraig Frances Medley:
Ffôn: 029 2034 3205
Ffacs: 029 2034 5436
E-bost: fran@cultural-enterprise.com
Mae trosglwyddo gwasanaeth yn bwysig iawn I Menter Diwylliannol ac anelwn
bob amser i ddarparu gwasanaeth o safon da; os ar achlysur rydym wedi methu
a chyrraedd eich gofynion chi gwnawn bob dim o fewn ein gallu i gywiro ein
camgymeriadau.

